e-lyfrau

Mae e-lyfr o dermau pêl-droed ar gael erbyn hyn.

Cliciwch yma i’w lwytho i lawr.

Bydd rhagor o e-lyfrau yn ymddangos yn fuan ar gyfer pynciau penodol.

Defnyddio cyfrolau ar ffurf e-lyfr EPUB
Mae ffeiliau EPUB yn fwy hylaw na PDF ar sgrin fach, ond mae angen meddalwedd a/neu ddyfais e-ddarllen i’w hagor.

Gall y rhan fwyaf o raglenni a dyfeisiau e-ddarllen agor ffeiliau EPUB.

Ar gyfer e-ddarllenwyr cyffredinol lawrlwythwch y ffeil EPUB i’ch cyfrifiadur a’i throsglwyddo i’ch dyfais yn y
modd arferol.

Ar ffôn clyfar neu dabled, lawrlwythwch ap o’r rhestr isod yna lawrlwytho’r ffeil EPUB a’i hagor
gyda’r ap:

  • iPhone neu iPad: iBooks, Bluefire Reader*, ap Kindle, ap Kobo
  • Ffôn neu dabled Android: Bluefire Reader*, FBReader, ap Kindle, ap Kobo, Moon Reader Pro (am dâl)
  • Windows Phone: Bookviser, ap Kindle, FBReader, ap Kobo
  • Nokia: (Symbian) Ionic, Bubue ac ap e-ddarllen

Ar gyfrifiadur Windows, MacOS neu Linux, lawrlwythwch feddalwedd o’r rhestr isod yna lawrlwytho’r ffeil EPUB a’i hagor gyda’r
feddalwedd:

  • Windows: ADE, FBReader, meddalwedd Kobo, Calibre
  • Mac: ADE, FBReader, meddalwedd Kobo, Calibre
  • Linux: FBReader, Calibre

* Gallu agor e-lyfrau Gwales hefyd.